42

Egluro Pwysedd Aer Isel

  • Mae pwysedd aer yn bwysedd o fewn atmosffer y Ddaear.
  • Yn bennaf (bron bob amser) mae pwysedd aer yn bwysau’r atmosffer uwchben yr union bwynt lle mae pwysedd aer yn cael ei fesur.
  • Wrth i ni fynd yn uwch mewn uwchder bydd y pwysedd aer fel arfer yn mynd i lawr, gan nad oes cymaint o aer.
  • Weithiau mae enwau gwyddonol ar gyfer pwysedd aer yn cael eu defnyddio; sef Pwysedd Atmosfferig neu Bwysedd Barometrig.
  • Mae pwysedd aer normal ar lefel môr yn 1013 mbar.

Potel blastig wedi’i chau 14,000 o droedfeddi (4,267medr)

Llun: Plastic bottle at 14000 feet, 9000 feet and 1000 feet, sealed at 14000 feet © Wikimedia Commons

 

Llun 1: 14,000 o droedfeddi (4,267 medr)
Llun 2: 9,000 o droedfeddi(2,743 medr)
Llun 3: 1,000 o droedfeddi (305 medr)

Roedd gan yr aer gafodd selio yn y botel ar ben mynydd (4,267m) bwysedd aer is; wrth i’r botel gael ei chario i lawr y mynydd mae’r pwysedd uwch wedi’i malu.

Mae’r graff yma’n dangos sut mae pwysedd aer yn lleihau ag uwchder.

 

Llun: Atmospheric Pressure vs. Altitude - Geek.not.nerd © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons CC0 1.0 Universal Public Domain Dedication

Deall Pwysedd - Blwch Ffeithiau

Pwysedd yw’r grym sy’n cael ei roi’n unionsyth (meddyliwch am ongl gywir) ar wyneb y gwrthrych fesul uned arwynebedd.

Pwysedd = grym yn gwthio ar arwynebedd.

Llun: Pressure force area - Klaus-Dieter Keller © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Meddyliwch am bentwr o lyfrau ar ben desg. Mae pwysau’r llyfrau = pwysedd ar y ddesg (neu rowch nhw ar beiriant pwyso).

Pwysedd aer yw pwysau’r atmosffer yn gwthio i lawr ar wyneb y Ddaear.

Yn fathemategol, Pwysedd = Grym ÷ Arwynebedd

Caiff grym ei fesur gyda newtonau. Caiff arwynebedd ei fesur gyda medrau sgwâr.

Enw’r uned wyddonol ar gyfer pwysedd yw’r pascal (Pa), sy’n gydradd ag un newton y medr sgwâr.

Gyda’r disgyrchiant normal ar y Ddaear; mae cilogram yn rhoi grym o tua 9.8 newton.

Mae afal nodweddiadol yn rhoi tuag un newton, ac rydym yn mesur hyn fel pwysau’r afal.

Ym mywyd normal, mae’r uned fwyaf cyffredin o fesur pwysedd yw’r bar.

Mae’r bar yn cael ei ddiffinio i fod yn gydradd â 100,000 Pa.

Mae pwysedd aer, gan amlaf, yn cael ei fesur gyda milibar (symbol = mbar neu mb). Mae milibar yn filfed o far, yn union fel mae milimedr yn filfed o fedr.

Mae pwysedd aer normal yn 1013mb.

Llun: Pressure exerted by collisions - Becarlson © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Byddwch chi wedi dod ar draws pwysedd wrth i chi chwythu aer i mewn i falŵn neu deiar eich beic. Pwysedd yw grym yr aer o’i fewn yn gwthio’n allanol yn erbyn wal y teiar neu rwber y balŵn.

Os ydych yn gwthio mwy o aer i mewn i deiar neu falŵn, mae’r pwysedd yn codi.

Meddyliwch am ein potel aer a gafodd ei selio ar 4,267 medr o uwchder; unwaith i’r botel gael ei chario i lawr y mynydd mae’r pwysedd aer tu allan i’r botel yn fwy na’r pwysedd aer tu fewn iddi, felly mae’r botel yn cael ei malu.

  • Yn ogystal ag uwchder mae pwysedd aer yn cael ei effeithio gan gerhyntau aer sy’n codi a gostwng.
  • Lle mae cyrff aer ar wyneb y Ddaear yn cynhesu; maen nhw’n ehangu ac mae’r aer yn dod yn ysgafnach na’r aer uwch eu pen, felly mae’n codi.
  • Mae cerhyntau aer sy’n codi yn creu ardaloedd o bwysedd aer isel.
  • Mae’r rhain yn cael eu gweld yn ‘fandiau’ ar wyneb y Ddaear.
  • Mae’r bandiau yn newid gyda’r tymhorau.
  • Mae’r môr a’r tir yn cynhesu ac yn oeri ar raddfa wahanol, felly gall y bandiau yma gael eu gwahanu gan y cyfandiroedd a’r cefnforoedd.

Llun: Mslp-jja-djf - William M. Connolley © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported (attr: William M. Connolley at the English language Wikipedia)

Pwysedd 15 mlynedd lefel y môr ar gyfartaledd; mis Mehefin, mis Gorffennaf, mis Awst = map top; mis Rhagfyr, mis Ionawr, mis Chwefror = map gwaelod

 

 

Gwregysau Pwysedd Byd-Eang

Lle mae’r haul yn union uwchben (ac i’r Gogledd a’r De) o’r cyhydedd, mae’r aer yn cynhesu ac mae’r rhan fwyaf o’r aer yn dod yn ysgafnach, ac felly’n codi.

Llun: Pelydrau'r Haul a'r Atmosffer - Daearyddiaeth yn y Newyddion Rhifyn 6

 

Mae’r aer sy’n codi’n oeri ac mae anwedd dŵr yn cyddwyso’n law.

Mae hyn yn creu band o law a phwysedd aer isel ar neu o gwmpas y cyhydedd sy’n symud i’r Gogledd ac i’r De wrth i’r tymhorau newid.

Llun: MeanMonthlyP - PZmaps © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Caiff y band o gymylau ei weld ar luniau lloeren.

Caiff y band o gymylau ei achosi oherwydd yr aer sy’n codi, sy’n achosi pwysedd aer isel.

Mae’r cymylau yn ffurfio glaw, a dyma felly sut mae fforestydd glaw yn cael eu ffurfio.

Llun: MeanMonthlyP © Wikimedia Commons

Dargludo

Yn y pen draw bydd yr aer yn oeri a ffurfio cell ddargludo.

O fewn cell ddargludo, mae aer twym (gall dargludo ddigwydd o fewn unrhyw hylifau neu nwyon) yn codi.

Ar ôl codi, mae’n dechrau gostwng.

Mae’r aer sy’n codi ac yn gostwng yn ffurfio cerhyntau cylchog.

Mae’r gwres mwyaf yn cael ei dderbyn ar hyd y cyhydedd; mae’r aer yn codi ac yn hollti yn ddwy gell ddargludo. Un i’r Gogledd ac un i’r De.

File:Convection.gif

Llun: ConvectionUser:Oni Lukos © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Lle mae’r aer yn gostwng, mae’n creu band o bwysedd uchel. Mae hyn yn digwydd tua 58°Gogledd a 38°De.

Llun: Sahara satellite hires © Wikimedia Commons

Wrth i aer ostwng mae’n cynhesu ac unrhyw gwmwl/answedd dŵr yn anweddu ac mae’r awyr felly yn gwbl ddirybudd – dyma’r lleoedd cawn anialychau poeth fel Anialwch y Sahara ar ledredau hyn.

Llun: Libya 4985 Tadrart Acacus Luca Galuzzi 2007 - Lucag © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 2.5 Generic

Tua’r Gogledd a’r De mae’r aer yn hollti yn ddwy gell ddargludo ychwanegol ym mhob hemisffer.

Mae tair cell ddargludo ym mhob hemisffer yn creu’r bandiau ar bwysedd aer isel (aer yn codi) a’r bandiau ar bwysedd aer uchel (aer yn gostwng).

Enwir dwy o’r celloedd dargludo ar ôl y bobl wnaeth eu darganfod (Hadley a Ferrel), ac enwir y drydedd ar ôl yr ardal Begynol lle cewch hyd iddi.

Mae’r celloedd hefyd yn achosi’r prif wyntoedd ar y wyneb lle mae aer yn llifo o ardaloedd sydd â phwysedd uchel nôl at ardaloedd sydd â phwysedd isel.

Llun: AtmosphCirc2 - DWindrim © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

 

Gweithgaredd

Cwblhewch yr astudiaeth ar ran 1 o’r daflen weithgaredd.

Top

Related Articles...

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Egluro Corwyntoedd

Egluro Corwyntoedd